Listen

Description

Mae sefyllfa ail gartefi yng Ngwynedd a Môn yn peri ofn a phryder ymysg trigolion y ddwy Sir. Dyma bodlediad yn trafod effaith yr argyfwng ar ein pobl ifanc, ein iaith a’n diwylliant, gyda Rhys Tudur a Mared Llywelyn - aelodau blaenllaw o Gyngor Tref Nefyn. Ymgais Llwyddo’n Lleol yw cefnogi pobl ifanc i allu byw bywyd llawn yn eu cynefinoedd, ond rhaid gofyn y cwestiwn - oes hawl gan bobl ifanc i wneud hyn pan mae’r farchnad dai yn gweithredu fel ag y mae hi?