Mae Eleth yn siarad gyda Tegid Jones o Menter y Plu a Rhian Hughes o Arloesi Gwynedd Wledig am eu hymgyrch cyllid torfol. Yn haf 2019 bu i Arloesi Gwynedd Wledig helpu Menter y Plu i greu ymgyrch cyllid torfol ar gyfer codi arian i'w galluogi i brynu Tafarn y Plu yn Llanystumdwy. Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.