Ar y rhaglen wythnos yma sgwrsiwn â Gruffudd ab Owain. Bydd nifer ohonoch yn adnabod Gruffudd trwy ei flog seiclo, Y Ddwy Olwyn. Mae Gruffudd hefyd yn adnabyddus ar Twitter fel @cycling_dragon. Mae'n ysgrifennwr talentog a gwybodus iawn a chlywn am ei flog a'i basiwn at seiclo yn y rhaglen yma. Fydd yn syndod i rhai i ddysgu fod Gruffudd ond yn 16 mlwydd oed! Dysgwch fwy am y person tu nôl i'r blog yn y rhaglen yma.
Os oes gennych diddordeb yn ymuno â ni am y seminar maeth (nutrition) sy'n cael ei chynnal gan ein cyn-westai, y dietegydd a triathletwr, Carys Davies, yna ebostiwch ni ar dctriathlon@oulook.com, nawrywrawr@hotmail.com neu danfonwch neges i ni ar Facebook neu Twitter. Fydd y seminar yn wythnosol, pob nos Iau, dros y wê, am bedwar wythnos, yn dechrau ar y 4ydd o Chwefror. Os nad yw'r amser hyn yn gyfleus gallwn ddanfon fideo o'r seminar atoch drwy e-bost. Y gost yw £45 am y 4 seminar.
Fel arfer, os oes gennych unrhyw cwestiynau, syniadau am westeuon hoffech glywed neu syniad am pwnc i'w drafod yna naill ai ebostiwch nawrywrawr@hotmail.com, neu cysylltwch â ni drwy Facebook neu Twitter (@nawrywrawr)
Cefnogwch ni/Support us: https://www.patreon.com/nawrywrawr
Diolch :)