Listen

Description

Gyda holl helynt yr etholiad tu cefn i ni, mae'n amser i gael croesawi Delyth Jewell, AS i'r podlediad wythnos hon. Recordiwyd y bennod rhai wythnosau cyn yr etholiad gydag Aelod Rhanbarthol Plaid Cymru ar gyfer Dwyrain De Cymru. Dwi wastad yn edmygu unrhyw wleidyddion; eu hangerdd a'u hymroddiad a'u gallu ac mae Delyth yn sicr yn un o sêr mwyaf dawnus y Senedd. Yn ogystal â hynny, mae Delyth yn gymeriad, yn ''haden'', yn berson deallus ac yn berson, wel.........neis! A wnes i wir fwynhau cyfweld â hi a chael bach o ''laff''! Joiwch y bennod!