Listen

Description

Yn ystod wythnos ryngwladol menywod mae di bod yn fraint cael yn gyntaf, Beti George ar y podlediad, ac wythnos hon, Hanna Hopwood, y ddwy mor ffab a'i gilydd!! Ma Hanna yn fam frysur gyda dau o fechgyn bach ond yn ffeindio'r amser i ddarlledu nid yn unig ar Radio Cymru, ond gyda'i phodlediad a'i chynnwys ar Instagram, gyda 'Gwneud bywyd yn haws'. Ma hi yn cynnig pob MATH o bethau i wneud i ni wenu, i fod yn bositif, i beidio â bod yn rhy galed ar ein hun, ac yn syml, gwneud bywyd yn haws, a ninnau ynghanol y cyfnod clô anodd yma. Felly roedd hi'n hyfryd cael sgwrsio â dwy ''fenyw a hanner'' yn ddiweddar; y 'lejynd' Beti George a'r 'lejynd' Hanna Hopwood. Joiwch a diolch i bawb eto am wrando!