Nes i byth feddwl fasen i yn cyfweld ag un o'n ffrindiau coleg ar gyfer y podlediad yma! Ond dwi mor falch i ni drefnu'r sgwrs hwyliog a naturiol yma gan yr awdures boblogaidd Marlyn (dim i-dot cofiwch 😎 ) Samuel Roberts, neu Evans erbyn hyn. Na chi ''gymêr'' go iawn! Yn wraig, mam, ymchwilydd gyda radio Cymru ac yn awdures ddawnus iawn, mae bywyd ar Ynys Môn yn sicr yn frysur ac mi ges i fodd i fyw yn sgwrsio gyda hi ac yn hel atgofion ac yn siarad am ei gwaith a'i dylanwadau. Roeddwn i'n GWYBOD mai awdures fyse hi!
Diolch i bawb eto am wrando ar y podlediad!