Listen

Description

Beth allai ddweud am fy ngwraig gwadd wythnos hon? Chwa o awyr iach ac un o'r bobl fwyaf positif, ffeind, talentog, hapus a brilliant dwi'n nabod. Neb llai na Nia Parry! Cyflwynwraig, cynhyrchydd ac athrawes Gymraeg, sydd â'r wên orau a'r agwedd orau. Ond oeddech chi'n ymwybodol o'i bywyd a'i gyrfa CYN iddi ymddangos ar y sgrin? Sgwrs naturiol yn llawn hwyl a syrpreisys, 10 cwestiwn chwim (atebion gwych) a chwis am Dwrci! (Bydd rhaid i chi wrando😉) Diolch yn fawr i Nia a diolch hefyd i rywun arall ffab, Emma Walford, am fod ar y bennod ddiwethaf.