Listen

Description

''S'gob''!!! Fy ngŵr gwadd cyntaf yn 2022 yw'r actor a chyfarwyddwr Wynford Ellis Owen, neu i rai, Syr Wynff ap Concord y boss, neu hyd yn oed Donald Parry. (Teliffant? Porc peis bach?) Ar ôl blynyddoedd o gam ddefnyddio ac yn dod yn gaeth i gyffuriau ac yn bennaf alcohol, cafodd driniaeth am ddibyniaeth yng nghanolfan Rhoserchan yn Aberystwyth a bu'n sobr ers 22 Gorffennaf 1992. Graddiodd mewn Cwnsela Dibyniaeth yn 2008 ac ar 1 Hydref 2008 cychwynnodd weithio fel Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill.

Datblygodd canolfan gymunedol Stafell Fyw Caerdydd i gefnogi pobl gyda dibyniaeth ar gyffuriau yn ardal Caerdydd. Agorwyd y ganolfan yn 2011.

Pleser ag anrhydedd yw cael cyfweld â Wynfford am, nid yn unig ei yrfa fel actor a chyfarwyddwr a chynhyrchydd, ond am ei ddibyniaeth, ei siwrnai anhygoel trwy adferiad a'i waith erbyn hyn. 

Fel se Syr Wynff ap Concord y boss yn dweud, ''raslas bach a mawr!''