Listen

Description

Dachi’n siwr o wybod erbyn hyn ein bod ni’n holi darlledwyr gorau Cymru am eu gyrfaon nhw - yr heriau a'r uchafbwyntiau.

Os taw dyma’r bennod gyntaf - mae treat i chi - gyda sgwrs rhwng Alyssa Upton o’r ail flwyddyn ag un o newyddiadurwyr amlycaf Cymru,  Sian Lloyd.

Yma, mae hi’n siarad am sut yr aeth hi o fod yn ohebydd iechyd, i fod yn ohebydd rhwydwaith i’r BBC, i fod yn gyflwynydd Breakfast a gohebu i Crimewatch.

Nawr, mae hi’n gweithio yn llawrydd a newydd gyflwyno cyfres Efaciwis ar S4C, mae'n sicr yn werth gwrando ar hwn.