Argyfwng! Argyfwng! Mae morlo ym Mae Ceredigion yn seinio rhybudd ar ôl i fachgen bach golli ei fathodyn Criw Gwyllt yn y môr. Mae’r bachgen yn daer eisiau ei fathodyn yn ôl.
Mae Ceidwad Rae, Roxy, Afanc a Carw yn ceisio helpu, ond nid oes gan yr un ohonynt y sgiliau iawn ar gyfer y dasg dan y dŵr.
Yn ffodus mae rhywun yn y bae a fydd yn gallu helpu. Mae Luca yn ddyfeisiwr penigamp. A oes ganddo’r union beth i helpu’r Criw Gwyllt ymhlith ei ddyfeisiadau?
Mae’r criw yn cael cymorth gan yr anifeiliaid lleol a’u hen ffrind Heulforgi. Ond a fydd Afanc yn llwyddo i achub y dydd trwy gael y gorau ar y Sbwng Môr ystyfnig?
Neu chwiliwch am “Ranger Rae and the Wildlifers” ar eich ap podlediad neu Yoto
Cynhyrchu
Mae Ceidwad Rae a’r Criw Gwyllt (Ranger Rae and the Wildlifers) yn bodlediad gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, wedi’i gynhyrchu gan Fun Kids Radio.
Gwaith Celf: (c) Becka Moor
Cast:
Ceidwad Rae: Katy Schutte
Roxy: Leila Hall
Carw / Cath Wyllt: Hannah Platts
Afanc / Ystlum: Lloydie James Lloyd
Luca: Stephen Lee
Eddie Alldaith: Adam Hodgson
Mae’r holl gymeriadau eraill yn cael eu chwarae gan aelodau o’r ensemble.
Awdur: Aidan Fitzmaurice
Dylunydd Sain: Chris Stevens
Golygu: Adam Wagner
Cynhyrchwyr: Lloydie James Lloyd ac Adam Stoner