Listen

Description

Sesiwn 2: Dod at yr anadl

Mae'r arfer meddylgarwch y sesiwn yma yn eich gwahodd i angori eich sylw yn yr eiliad bresennol gan ddefnyddio'r anadl. Gall ymarfer rhoi ein sylw fel hyn yn yr oes sydd ohoni ein helpu i wasgu'r botwm saib ar yr adegau hynny pan fydd ein meddyliau'n carlamu a phryderon.

Gallwch wneud hyn trwy wrando ar y podlediad neu trwy ddilyn y canllawiau byr yn y gwahoddiad isod. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar y recordiad yn gyntaf ac yna ei drio y tu allan.

Y tro yma, mae'r synau natur ar ddechrau ac ar ddiwedd y recordiad yn dod o gae wrth ymyl Afon Ffrydlas, yn uchel uwchben Bethesda.

Gwahoddiad 2: Dod at yr anadl


Chwalu myth meddylgarwch: Mae angen i chi wagio eich meddwil o feddyliau
Efallai mai un o'r camsyniadau mwyaf cyffredin o feddylgarwch yw bod angen i chi
wagio'ch meddwil neu atal eich meddyliau. Nid yw hyn yn wir ac mae hyn bron yn
ambhosibl! Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud ag annog perthynas mwy cyfeillgar a'n
meddyliau ac fe all hyn leihau tensiwn yn ein bywydau.

Bydd y sesiwn nesaf yn cynnwys synau o ran wahanol o'r Carneddau ac arfer meddwlgarwch ynglyn a defnyddio'r synhwyrau fel Ile i angori ein sylw.