Listen

Cast

Description

Mae'r oerfel wedi dod o'r diwedd, pa ffordd well i'w guro fo na lapio dy hun mewn blanced a gwrando ar tri ffrind yn trafod tech?

Bydd Iest, Sions a Bryn yn herio Grokipedia, dysgu bod Siemens Llanberis yn thing, neidio ar yr Affinity trên a trio gweithio allan sut mae Disney am stopio bobl fod yn sglyfs pan rown nhw generative AI ar Disney+😣

FfilmDiDdim y mis ydy'r topical Running Man o 1987 - yr Haclediad yn erbyn Arnie am y tro cyntaf!

Hyn i gyd a llawer mwy Yn Haclediad mis Tachwedd ❄️ Diolch i Iestyn am gynhyrchu ynghanol cursed episode arall, a diolch i chi gyd am eich cefnogaeth ac am wrando 🤓