Ym mhennod arbennig estynedig (o God na!) Nadolig yr Haclediad bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod tech gorau’r flwyddyn, digwyddiadau enfawr 2017 ac yn mwynhau afterparty hynod HYNOD sbwylerllyd am The Last Jedi. Diolch ENFAWR am wrando dros y flwyddyn pawb, a plîs anfonwch eich sylwadau i ni – ni’n addo penodau byrrach yn 2018!
O.N. Danfonwch yr isod i mewn atom:
datblygiad tech gorau i ti ffendio leni
hoff app
teclyn alli di ddim byw hebddo
peth brawychus y flwyddyn
peth positif y flwyddyn
Cyfres/ffilm gorau
Gwobrwyo twat y flwyddyn
Gwobrwyo arwres/arwr/arwyr y flwyddyn