🥵 Wrth i’r gwres fynd chydig yn nyts, gadewch i Haclediad mis Mai chillio chi allan efo cwpl o oriau o’r drafodaeth tech orau allan yna*
*Yn y Gymraeg obvs
Mis yma bydd Iest, Sioned a Bryn yn trafod cysyniad podslop, gwenwyno eich data i ddrysu AI a’r syniad bo ni wedi colli’r gallu i neud pethe mewn distawrwydd. Hyn oll a llawer llawer mwy!
Ffilmdiddim y mis ydy Van Helsing - ydy hi’n adeg wirion o’r flwyddyn i neud ffilm fampirs? Ydy, ond ydy’r ffilm yma yn glasur o Ffilmdiddim? Ydy hefyd, so joiwch 🧛
Diolch o galon i Iestyn Lloyd am olygu a chynhyrchu’r sioe - taflwch geiniogau i’r tun Kofi iddo isod (a diolch eto fyth i’r gwrandawyr sy’n cefnogi bob mis, chi werth y byd!).