Listen

Cast

Description

Craciwch y golf claps na allan am bennod hafaidd o'r Haclediad!

Datblygiadau dirgel AI sy’n mynd â bryd Sioned, Iestyn a Bryn mis yma - romcom y degawd gyda teaser am “rhywbeth” gan Sam Altman a Jony Ive, a guest appearance gan Nick Clegg i roi chi off eich swper.

Yn wahanol i’r arfer mae’r criw wedi gwylio ffilm actually da ar gyfer y #Ffilmdiddim - y music biopic i ladd y genre (wrth ei dorri yn ei hanner natch) Walk Hard.

Diolch o galon i chi gyd am wrando, diolch i’n cyfranwyr caredig, a diolch i Iestyn am gynhyrchu a golygu’r sioe 🥹🫶