Cyfle i edrych nôl ar gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 mis Medi a rhagolwg o’r gemau yn y Cymru Premier dros y penwythnos.
Bydd camerâu Sgorio yn fyw ar Goedlan y Parc ddydd Sadwrn, gydag Aberystwyth yn croesawu Met Caerdydd.
Cawn glywed gan reolwr Aberystwyth, Antonio Corbisiero ac amddiffynnwr Met Caerdydd, Emlyn Lewis.