Listen

Description

Cydymaith wedi’i greu ar gyfer eich amser y tu allan.
Wedi’i gynhyrchu gan yello brick www.yellobrick.co.uk

‘Dilynwch fi, Hafren, doeth a thymhestlog. Mae gen i dân yn fy mol sy’n llosgi’n anniffoddadwy a gallaf eich tywys chi heddiw. O, deithiwr annwyl, y straeon sydd gen i i’w rhannu.’

Gan ennyn ysbrydoliaeth o’r chwedl Gymreig ‘Tair Chwaer Pumlumon’ mae’r profiad clywedol hwn yn eich galluogi chi i glywed meddyliau a chyfrinachau tair afon fawr Cymru: Hafren, Gwy & Ystwyth.

Yn ystod eich amser y tu allan, fe fydd y chwiorydd yn gymdeithion i chi ond chi sy’n rheoli eich profiad. Mae pum rhan i bob profiad ystyrlon ac rydyn ni’n eich annog chi i gymryd eich amser rhyngddynt, i ymgolli yn eich amgylchfyd a darganfod yr hud sydd o’ch cwmpas.
Defnyddiwch glustffonau ar gyfer y profiad gorau.

TRAWSGRIFIAD AR GAEL YMA: https://bit.ly/3awzXZs

www.midwalesmyway.com/threesisters

COVID-19: Oherwydd yr amgylchiadau a’r cyfyngiadau presennol gallech wrando ar sain Y Dair Chwaer yn ystod eich amser y tu allan pan yn ymgymryd â’ch un ffurf o ymarfer corff dyddiol, gan sicrhau eich bod yn glynu at Ganllawiau’r Llywodraeth ar gadw pellter cymdeithasol. Neu fe allwch benderfynnu gwrando ar y sain tra’n eich gardd neu gartref yn eistedd wrth y ffenestr.
………………………..
Credydau:
Cynhyrchwyd gan yello brick
Hafren - Sharon Morgan
Awdur - Sara Lewis
Cynllun Sain - Dan Lawrence
Darlunio - Brickwall
Prosiect Cyngor Sir Powys mewn partneriaeth â Phartneriaethau Cyrchfan Biosffer Ceredigion, Canolbarth a Gogledd Powys a Dyfi.

Wedi’i ariannu trwy’r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol a’i gefnogi trwy Gymunedau Gwledig y Llywodraeth Gymreig - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.