Dylan Jones a'r criw yn edrych ymlaen at Leyton Orient v Wrecsam, y gêm fawr i'r Dreigiau ar frig Cyngres Genedlaethol Lloegr.
Tomi Morgan sy'n cofio David "Dias" Williams, wrth i Josh Jones sôn am gynrychioli Manchester United mewn twrnamaint o gêm gyfrifiadurol FIFA 19.
Sgwrs hefyd gyda Cai Emlyn o dîm pêl-droed Clwb Dinas Caerdydd i chwaraewyr sy'n rhannol ddall.