Listen

Description

Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi M.A. mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd o Brifysgol Mississippi. Bu’n byw yn New Orleans am ddegawd a chafodd gyllid gan Gyngor y Celfyddydau i ymateb i ddinistr Corwynt Katrina gyda phumawd jazz.

Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, ac mae’n cydweithio ag artistiaid i greu gosodiadau barddoniaeth mewn gofodau cyhoeddus. Enillodd Wobr John Trip am Berfformio Barddoniaeth yn 2005 a bu gyda’i thad ar y Listening Project ar BBC Radio 4, yn archwilio tarddiad emosiwn mewn barddoniaeth.

Yn 2018, clare oedd bardd preswyl Gŵyl Velvet Coalmine – lle bu yn Sefydliad y Glowyr yn casglu straeon pobl am yr adeilad diwylliannol a gwleidyddol bwysig hwnnw.
Mae'n enedigol o bentref Cefn Fforest ger Caerffili. Saesneg oedd iaith yr aelwyd a'r pentref ac fe gafodd ei ysbrydoli gan athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Coed Duon ac aeth ati i ddysgu'r iaith.

Clare oedd Bardd y Mis Radio Cymru cyn y Nadolig 2023.