Listen

Description

Dan McCallum Cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd Awel Aman Tawe yw Gwestai Beti George.

Cafodd ei fagu yn Plymouth yn Lloegr. Roedd ei Dad, Daniel yn dod o Glasgow a’i fam Mari yn dod o'r Betws yn Rhydaman.

Mae wedi cymhwyso fel syrfëwr effeithlonrwydd ynni ac mae ganddo radd mewn Hanes Modern o Brifysgol Rhydychen. Ar ôl graddio bu’n gweithio gyda ffoaduriaid yn Sudan ac yn gweithio gyda’r Kwrdiaid yn Iraq ac yn fanno y cafodd flas ar weithio i wella cymunedau.

Mae Dan yn siarad Cymraeg a Ffrangeg yn rhugl, a rhywfaint o Arabeg.
Cawn hanesion ei fywyd a’r straeon am sefydlu’r elusen yn Dyffryn Aman.