Listen

Description

Er bod Deri Tomos wedi ymddeol o'i waith bob dydd ym Mhrifysgol Bangor, mae ei frwdfrydedd dros wyddoniaeth a thros annog pobl i astudio a thrafod gwyddoniaeth yn Gymraeg yr un mor heintus â phan oedd yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt.

Treuliodd Deri ei flynyddoedd cynnar yn Gillingham, cyn i'r teulu symud i Gaerdydd.

Dysgodd Gymraeg, ond mae'n difaru iddo beidio â chael cyfle i ddysgu tafodiaith Gwenhwyseg teulu ei dad.

Mae'n sôn wrth Beti am ei ffydd, traddodiadau asgell chwith Coleg y Brenin yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr, drwghoffi ffonau o bob math, cadw gwenyn a dysgu canu.

Mae hefyd yn trafod datblygiadau gwyddonol o bob math ym maes iechyd, technoleg a'r gofod.