Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol yw gwestai Beti George.
“Mae 'na real cyfle i wneud gwahaniaeth pan ma' chi sydd yn gyfrifol am 50% o gyllideb Llywodraeth Cymru”. Dyna ddywed Eluned Morgan AS wrth Beti George, sy'n ei holi am ei gwaith a’i chyfrifoldebau fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
Mae Eluned Morgan yn y swydd yma ers 18 mis ac mae Beti yn ei holi am yr heriau mae hi’n ei wynebu - o gyfnod Cofid i’r rhestrau aros am driniaethau NHS.
Hefyd mae'n sôn am ei gwr sef “ei ffrind gorau” y meddyg a’r offeiriad Rhys Jenkins, a’u hoffter o ganeuon Queen.(Ail-ddarllediad/Rpt)