Mae'r cwmni heddiw yn barod iawn i fentro mewn byd busnes a hynny er lles yr economi leol. Bwyd ac amaeth yw ei arbenigaeth ac ymhlith ei fentrau fe blannodd lannerch o olewydd, y mwyaf gogleddol yn Ewrop. Geraint Hughes yw'r cyntaf ym Mhrydain i werthu olew Camelina, a bu'n tyfu cywarch. Ond ei lwyddiant gyda Jones Crisps yw ei fenter fwyaf adnabyddus mae'n siŵr.
Mae gan Geraint ugain mlynedd o brofiad o weithio’n agos gyda mentrau bwyd-amaeth ar draws Cymru a’r DU i wireddu syniadau a dod o hyd i atebion ar gyfer heriau. Mae’n rhedeg cwmni Lafan sydd yn cyflogi nifer o bobol a'u pwrpas yw meithrin a chefnogi timau o bobl dalentog sydd am weld dyfodol gwell i ardaloedd gwledig Cymru.
Mae Geraint yn fab fferm o Ben Llŷn, ac mae'n sôn am ei fagwraeth hapus, ei deulu a'i ddiddordeb ifanc mewn tyfu llysiau.
Mae'n dewis 4 cân yn cynnwys ‘Gwreiddiau’ gan Swnami “Cân y teulu ar hyn o bryd a’r plant wrth eu boddau yn dawnsio iddi".