Listen

Description

Erbyn ei fod yn un ar ddeg oed, roedd Hedd Ladd-Lewis wedi byw yn Kenya ac yn Zambia.

Dychwelodd y teulu i Gymru, ac i lethrau Carn Ingli, pan ddaeth yn amser iddo fynd i'r ysgol uwchradd.

Cafodd ei ysbrydoli gan ei athro hanes yn Ysgol y Preseli, yr arlunydd Aneurin Jones, a oedd yn defnyddio dulliau anghyffredin i gynnau diddordeb ei ddisgyblion.

Yn ddeuddeg oed, cloddiodd Hedd gyda thîm o archeolegwyr am y tro cyntaf, ac ers hynny hanes ac archaeoleg sydd wedi mynd â'i fryd.

Ar ôl cyfnod yn gweithio yn Llundain, dychwelodd i Gymru a chymhwyso fel athro hanes.

Mae'n dweud ei bod yn fraint cael defnyddio ei bwnc bob dydd.