Un sy'n fodlon mentro, ac yn fodlon methu, yw'r dyn busnes Llion Pughe.
Wedi ei fagu yng Nghwm Ystwyth ac ym Mro Ddyfi, mae'n credu bod sefydlu busnesau lleol yn ddull o gadw gwaith a grym yng nghefn gwlad Cymru.
Astudiodd Gymraeg a Thwristiaeth cyn gweithio i Menter a Busnes, ac yna fel swyddog marchnata i Brifysgol Caerdydd.
Roedd yn benderfynol o ddychwelyd i Fro Ddyfi, a mae wedi sefydlu sawl busnes er mwyn galluogi hynny.
Mae'r gwaith yn anodd ar adegau, ac ambell syniad yn aflwyddiannus, ond mae'n mwynhau'r heriau, ac yn parhau i fwynhau datblygu syniadau newydd.