Listen

Description

A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Beti George yn holi Marcus Whitfield.

Mae Marcus yn siaradwr newydd sydd mor frwd dros yr iaith nes iddo fynd ati i agor canolfan yn Llanbedr Pont Steffan i ddod รข dysgwyr at ei gilydd i ymarfer yr iaith, a chodi eu hyder.

Wedi sawl ymdrech ar ddysgu'r iaith, yr ysgogiad mawr i Marcus ail afael ynddi oedd mynd i Euro 2016 a glanio yng nghanol cymaint o siaradwyr Cymraeg.

Mae'n dod yn wreiddiol o Fwcle yn Sir Y Fflint, ond mae o bellach yn byw yn swydd Caint, ac mae ganddo sawl dosbarth dysgu Cymraeg yn Lloegr.