Daw Richard Lewis o Borth Tywyn, ac wedyn Meinciau.
Wedi gadael Ysgol y Strade, aeth i wneud gradd daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn treulio dwy flynedd yn dysgu yn Ysgol Uwchradd Aberteifi.
Penderfynodd ei fod am ymuno â'r heddlu, a chafodd swydd fel cwnstabl yng Ngheredigion.
Dringodd ysgol gyrfa yn gyflym iawn, a chael ei benodi'n Brif Gwnstabl Heddlu Cleveland yn Ebrill 2019.
Mae'n parhau i fyw yn Aberaeron, gan deithio yn ôl ac ymlaen bob penwythnos.
Roedd yn chwaraewr rygbi addawol iawn, a bu'n chwarae i dîm ieuenctid y Scarlets. Mae hefyd yn ddeiliad tocyn tymor i dîm pêl-droed yr Elyrch.