Listen

Description

Uwch-ymgynghorydd addysg i CBM yw Siân Tesni, sef elusen sy'n gweithio i drawsnewid bywydau pobl ag anableddau yn rhai o wledydd tlota'r byd.

Mae gan bawb hawl i addysg, yn ôl Siân, a sicrhau chwarae teg i blant ag anableddau yw prif bwyslais ei gwaith.

Yn ferch i bobydd, cafodd ei magu ym Mhencae ger Llanarth.

Dechreuodd ymddiddori mewn byddardod pan oedd yn yr ysgol, a datblygodd y diddordeb wrth iddi hyfforddi fel athrawes.

Yn 1989, enillodd ysgoloriaeth i ymchwilio i hawliau plant byddar yn Singapore, Papua Guinea Newydd ac Indonesia.

Wedi gorffen yr ymchwil, dechreuodd weithio i CBM ym Mhapua Guinea Newydd, gan aros yno am saith mlynedd.

Mae'n parhau i deithio'n helaeth gyda'i gwaith, ond yn mwynhau ochr ysgafn bywyd hefyd, yn enwedig mynd i gigs gyda'i mab.