Listen

Description

Steffan Lewis oedd yr Aelod Cynulliad ifancaf yng Nghymru pan gafodd ei ethol i gynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru yn 2016.

Mae’n dweud na all ddychmygu bywyd heb wleidyddiaeth, ar ôl i'w ddiddordeb yn y maes ddechrau pan oedd yn ifanc.

Yn un ar ddeg oed, roedd yn sgwennu at Dafydd Wigley yn Nhŷ'r Cyffredin, ac yn bedair ar ddeg anerchodd Plaid Cymru am y tro cyntaf.

Roedd gwleidyddiaeth hyd yn oed yn ddylanwad wrth ddewis pa dîm pêl-droed i'w gefnogi.

Ddiwedd 2017, cafodd Steffan wybod fod ganddo ganser y coluddyn, a hynny yn ei bedwerydd cyfnod, ac wedi lledaenu i rannau eraill o’r corff.

Mae'n sôn wrth Beti am y diagnosis, am y gefnogaeth fawr y mae wedi ei derbyn, ac am ei ddyhead i godi ymwybyddiaeth o'r salwch.