Un o Ffrainc yn wreiddiol yw'r artist Valériane Leblond.
Cafodd ei magu gan ei thad o Ganada, a oedd yn llawn dychymyg ac yn dyfeisio pob math o bethau.
Yn y coleg, cwrddodd â Chymro o Langwyryfon, a mae bellach yn magu tri mab yng Nghymru.
Mae gwaith celf Valériane yn aml yn ymwneud â'r syniad o berthyn.
Darlunio llyfrau yw ei phrif waith erbyn hyn, ond mae hefyd yn gweithio ar arddangosfa am hanes y Cymry a ymfudodd i Orllewin Virginia.