Listen

Description

Al Lewis a Lerpwl

Eleni enillodd clwb pêl-droed Lerpwl Uwchgynghrair Lloegr am y tro cynta erioed. Mae’r canwr Al Lewis yn ffan mawr o’r clwb a gofynnodd Dylan Jones iddo fe ar Ar y Marc sut oedd e’n teimlo ar ôl clywed y newyddion am lwyddiant Lerpwl…

Dy deimladau Your feelings
Uwchgynghrair Permier League
Rhyddhad Relief
Boddhad Satisfaction
Gwaith ymchwil Research
Cynghrair y Pencampwyr Champions League
Moronen A carrot
Addasu To modify

Y Cigydd Rob Rattray

Nos Fawrth buodd Geraint Lloyd yn sgwrsio gyda Rob Rattray o Lanfihangel y Creuddyn ger Aberystwyth, sydd yn dathlu pedwardeg mlynedd eleni o weithio fel cigydd, a dyma fe’n cofio’r dyddiau cynnar gyda Geraint.

Chi’n go lew? Are you OK?
Bwtsera Butchering
Mam-gu a tad-cu Grandmother and grandfather
‘Benu To finish
Palles i I refused to
Dyn cyn ei amser A man before his time
Ar yr asgwrn On the bone
Coleg Amaethyddol Agricultural College
Yn fy ngwaed i In my blood
Y rhyfel The war

Peredur ap Gwynedd a'r band Pendulum

Band o Awstralia yn wreiddiol ydy Pendulum ond erbyn hyn maen nhw’n enwog ar draws y byd ac un o’u haelodau ydy Peredur ap Gwynedd. Dyma i chi flas ar sgwrs fach gafodd Peredur gyda Daniel Glyn pan oedden nhw’n sôn am yrfa Peredur yn y byd cerddorol…

Oriau mân y bore Early hours of the morning
Ymwybodol Aware
Man a man Might as well
Ysbrydoliaeth Inspiration
Mentro To venture

Bois y Rhondda

Pythefnos yn ôl roedd yna raglen o’r enw Bois y Rhondda ar S4C ac roedd yr ymateb i’r rhaglen yn ffafriol iawn gyda llawer iawn o bobl yn dweud eu bod wedi ei mwynhau’n fawr. Dyma i chi glip o Rhian Morgan Ellis a Cole, un o’r Bois ar y rhaglen, yn cael sgwrs gyda Rhydian a Shelley ar y Sioe Sadwrn.

Cais Request

Amlinellu Outlining

Hynt a helynt The fortunes

Awyddus Eager

Mewn gwirionedd In reality

Canfyddiad Perception

Addewid Promise

So ti Dwyt ti ddim

Profiad Experience

Gwefannau cymdeithasol Social media

Adolygiad Bois y Rhondda

Un o’r rhai oedd wedi mwynhau rhaglen Bois y Rhondda oedd Hywel Llion a dyma fe’n sôn wrth Dafydd a Caryl ar y Sioe Frecwast pa mor braf ydy cael portread realistig o Gwm Rhondda a’i drigolion…

Cynhyrchiad ‘Drych’ arall Another ‘Drych’ production

Cymeriadau Characters

Antur Adventure

Seren fach A little star

Ystrydebau Strerotypes

Milltir sgwar Square mile

Ymwybodol Aware

Pyllau glo Coal pits

Olion Remains

Y gymuned The community

Gobaith

‘Gobaith’ oedd y gair ddewisodd Ifor ap Glyn yr wythnos yma, gair pwysig iawn i lawer ohonon ni yn y cyfnod yma. Dyma Ifor yn sôn am y gwahanol ffyrdd dyn ni’n defnyddio’r gair ‘gobaith’ yn y Gymraeg.

Galluogi To enable

Diolchgar Thankful

Deillio Derives

Cawell Cage

Nwyon peryglus Dangerous gases

Ysgyfaint Lung

Diffygio Failing

Does na’m rhyfedd It’s not surprising

Mudiad ieuenctid Youth movement

Cyfleu To convey