Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd. Rachel Bedwin sydd yn sgwrsio gydag Angharad yn y bennod yma.
Cafodd Rachel Bedwin ei mhagu yn Llundain. Tra’n fyfyrwraig yng Nghaergrawnt, dechreudodd ddysgu’r Gymraeg yn ei hamser sbâr. Yn dilyn cyfnod o brofiad gwaith yn ardal Eryri, penderfynodd symud i Ogledd Cymru er mwyn ymdrochi yn y Gymraeg. Mae hi bellach yn byw ym Mangor ac yn gweithio ac yn cymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y llynedd.
Geirfa ar gyfer y bennod
Cadeirlan - Cathedral
Caergrawnt - Cambridge
Ôl-radd - Postgraduate
Tyllu - To make a hole
Embryoleg - Embryology
Trochiad - Immersion