Listen

Description

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.

Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Hans Obma sydd yn actor ac yn ysgrifennwr.

Mae Hans yn enedigol o Wisconsin yng ngogledd yr Unol Daleithiau a bellach yn byw yn Los Angeles.

Fe benderfynodd ddysgu Cymraeg ar ôl darganfod bod ei fam-gu yn byw ym Mrynmawr, Blaenau Gwent cyn symud i America ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Treuliodd haf 2023 yn dysgu'r iaith ar gwrs ym Mhrifysgol Caerdydd, ac wedi iddo ddychwelyd i America mae'n parhau i ddysgu trwy ddilyn cwrs ar-lein.