Wrth ddathlu trydydd dyrchafiad yn olynol ar y Cae Ras nos Sadwrn, dim ond un cwestiwn oedd ar wefusau cefnogwyr Wrecsam... 'ble mae Waynne Phillips?!' Yn wyliwr cyson ers blynyddoedd lu bellach - unai fel sylwebydd neu gefnogwr - mae Waynne wedi dilyn y daith o'r Gynghrair Genedlaethol yn agosach na neb. Ond doedd o ddim yno i ddathlu gyda'r perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney, y rheolwr Phil Parkinson a'i chwaraewyr a'r miloedd o gefnogwyr. Pam? Gawn ni'r ateb gan y dyn ei hun, yn ogystal รข'i farn am sut all Wrecsam gystadlu yn y Bencampwriaeth tymor nesaf.