Beth sy’n cael effaith ar y ffordd rydych chi’n meddwl am eich hun a'ch corff?
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu rhoi pwysau arnom ni i geisio edrych ein gorau pob awr o’r dydd. Ond ydi hyn yn newid a phobl ifanc bellach yn chwilio am brofiad ar-lein mwy realistig?
Mewn sgwrs agored a hwyliog mae Mel, Mal a Jal yn trafod sut mae eu agwedd nhw at eu cyrff yn newid o hyd, ac effaith y disgwyliadau all gael eu gosod ar bawb.
Tanysgrifiwch i glywed penodau newydd o Mel, Mal a Jal: Dal i Siarad ar BBC Sounds.