Mae Mel, Mal a Jal: Dal i Siarad yn ôl!
Ym mhennod gyntaf yr ail gyfres mae'r dair yn trafod 'love bombing', sef dangos cariad ar y cyfryngau cymdeithasol. Ydi hyn yn eich gwneud chi wenu neu gyfogi?!
Pa mor aml ddylech chi roi llun o'ch cariad ar Insta ac yw'r dêt cyntaf yn rhy gynnar?!
Mae digon o farn a chwerthin wrth i ni glywed sgwrs gignoeth am y da, y drwg a'r dychrynllyd drwy lygaid Melanie Owen, Jalisa Andrews a Mali Ann Rees.