Magwyd Llior ar Fferm ger Llannefydd, ac ar ôl treulio amser yn gweithio yn myd byrlymus y byd ffasiwn yn Llundain a thu hwnt mae hi wedi dychwelyd yn nôl adre i’w milltir sgwâr, efo perspectif newydd ar fywyd.
Yn y bennod yma, ma Llior yn sgwrsio am sut wnaeth ei magwraeth hi fel merch ffarm olygu iddi fagu’r cryfder i oroesi byd heriol y byd ffasiwn yn Llundain, y gwersi mae hi wedi eu dysgu ar hyd y ffordd, a’r hyn sydd bellach yn bwysig iddi ar ôl gwthio ei ffiniau a chyflawni gyrfa lwyddianus.