Listen

Description

Persbectif, pêl-droed, teulu a hiwmor – sgwrs gynnes a gonest efo’r bridiwr ceffylau llwyddianus, Dewi Glyn.

Wrth i fywyd fynd ar garlam, dan ni’n cael cyfle i isda lawr dros baned a rhoi’r byd yn ei le (efo’r gath!). Dyma sgwrs am bob dim sy’n bwysig i’r tad, ffarmwr, adeiladwr a’r Cymro sydd â’i wreiddiau yn ddwfn ym Mhlas yn Trofarth, Llangernyw. Dan ni’n sgwrsio am bwysigrwydd persbectif, nerth a chryfder cymeriad, y wers o fethiant, a darganfod be sy’n gyffredin rhyngdda fo a’r teulu brenhinol. O ia – a phêl droed!