** Pennod arbennig **
Ma hon yn sgwrs boncyrs o hyfryd!
Yn y bennod gonest yma dan ni’n clywed am fywyd Emma, sy’n gweithio fel therapydd plant, ac sydd wedi cael sawl profiad heriol, fel mam ac fel therapydd. Mae Llior ac Emma yn cael sgwrs gonest am bob dim o post natal depression i hiwmor, ac o drio cadw dy hun yn gall ar ol profi genedigaeth trawmatic i deimlo fel Beyonce!!
(o.n ‘Wolfgang and the baby lunatic gan Charlie C King’ ydy enw’r nofel gyda llaw! Sy’n llawn hiwmor tywyll, gonestrwydd a realiti bywyd yr awdures. Ewch i brynnu copi! 🙂)