Listen

Description

Croeso i bennod newydd o Losing The Plot gan lais Radio 4 Dafydd Llewelyn.

Darllen llyfrau mewn unrhyw iaith er pleser, trafod llyfrau dan ni wedi mwynhau, darganfod ein llyfrau ar Good Reads, canmol sgwrs Siân gyda John Roberts a phenblwydd hapus i ni!

Pwy fydd Dafydd yn holi erbyn y podlediad nesaf?

Dyma restr ddarllen o'r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Tu Ôl I'r Awyr - Megan Angharad Hunter
Aaron Ramsey A Fi - Manon Steffan Ros
Heb Law Mam - Heiddwen Tomos
Y Gwynt Braf - Gwyn Parry
Dod nôl at fy nghoed - Carys Eleri
Ysbrydion - Elwyn Edwards
The Lamplighters - Emma Stonex
Ymbapuroli - Angharad Price
May We Be Forgiven - A.M. Homes
Our house is on fire - Greta Thunberg, Svante Thunberg, Malena Ernman Beata Ernman
Yn Fyw yn y Cof - John Roberts
The Illustrated Mum - Jaqueline Wilson

Colli'r Plot gyda'r awduron Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey, Manon Steffan Ros a'r cynhyrchydd Aled Jones.

Pedwar awdur sy'n bustachu efo plotiau yn gyson ac yn aml yn ei cholli hi.

Fe fydd yna lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.