Rydym ni yma'n Ysgol Foel Gron wedi bod yn brysur yn dysgu am y bydysawd, felly fe wnaethom benderfynu creu ein podlediad am yr hyn yr oeddem wedi ei ddysgu. Mae yna wyth grwp yn siarad a sgwrsio am blanedau, gofodwyr enwog, bywyd ar blanedau eraill (yn cynnwys sgwrs efo’r cyfnod sylfaen), yr haul a’r sêr, y lleuad, gorsaf ofod, asteroid a bydysawd eraill. Gobeithio y gwnewch ei fwynhau!