Listen

Description

Mae pob hunan ohonon ni’n cyflwyno ‘ffrynt’ i’r byd weithiau. Rydym ni gyd yn cael diwrnodau lle byddai’n well gennym guddio o’r byd, ond ni’n gorfodi’n hunain i wisgo a gwenu, fel pe bai popeth yn iawn. Y gwirionedd yw nad oes neb wir yn gwybod fel mae rhywun arall yn teimlo ar y tu fewn. A thra ein bod ni’n gallu gweld a gwerthfawrogi eu gwerth, efallai bod nhw’n teimlo’n wahanol iawn amdanyn nhw’u hunain. Yn y bennod hon trafodir hunan-werth a’r cyfnodau tywyll ac anodd sy’n gallu effeithio ar bawb. Yn gwmni i Trystan mae’r gyflwynwraig teledu Mirain Iwerydd, sydd newydd orffen astudio ei gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth; y newyddiadurwraig, cyflwynydd a chomediwraig, Lorna Prichard, a’r cwnselydd, Gareth Davies.

Rhybudd cynnwys: hunan-niweidio

Cyflwyniadau (1:15)
Mirain, hunan-werth a iechyd meddwl yn ei harddegau (6:40)
Stori Lorna a’i phrofiad hi o hunan-werth a iechyd meddwl (11:55)
Gareth yn trafod fel mae diffyg hunan-werth yn gallu effeithio ar bawb (22:40)
Pethe positif yn gallu dod o gyfnodau anodd (30:40)
Effaith y cyfryngau cymdeithasol (32:40)
Cyngor i rai sy’n gwrando (38:20)