Listen

Description

Pa mor bwysig yw diogelwch seicolegol yn y gweithle? Beth yw'r effaith ar les a chynhyrchiant? Yn ein trafodaeth gyda'r gwestai, Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, mae’n son am ei phrofiadau ac arbenigedd ar faterion diogelwch seicolegol yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Prifysgol Felindre.

Mae Nicola Williams wedi bod yn arweinydd blaenllaw ar gyfer mentrau diogelwch seicolegol. Mae hi wedi arwain ymdrechion o fewn yr Ymddiriedolaeth, gan gynnwys arwain y Grŵp Cydweithredol Gofal Diogel. Bydd Nicola yn trafod llwyddiannau, heriau, a phwysigrwydd meithrin amgylchedd seicolegol diogel i staff a chleifion.Mae’n bwysig meithrin amgylchedd, meddai, “ lle mae timau'n teimlo eu bod yn gallu cymryd risgiau, yn gallu mynegi syniadau a phryderon, eu bod yn gallu codi llais pan fydd rhywbeth wedi mynd o'i le a chyfaddef mewn gwirionedd i gamgymeriadau sy'n anodd iawn i rai heb ofni y bydd canlyniadau neu ganlyniadau negyddol i hynny.” 

Cawn ddeall hanfod diogelwch seicolegol, ei goblygiadau ar gyfer unigolion a diwylliant sefydliadol, a strategaethau ymarferol ar gyfer ei weithredu a'i wella. Mae Nicola yn tynnu sylw at bwysigrwydd blaenoriaethu diogelwch seicolegol mewn lleoliadau gofal iechyd er mwyn gwella llesiant a pherfformiad.

Yn y bennod Gymraeg hon, actor sy’n lleisio geiriau Nicola Williams. I glywed y fersiwn Saesneg gwreiddiol ewch i: https://www.spreaker.com/episode/creating-the-conditions-for-sustainable-improvement--59283958