Listen

Description

Yn y bennod hon, eisteddodd Sarah Patmore, a Nick Pearn, Arbenigwr Egwyddorau yng Nghanolfan Rheoli Darbodus Toyota i drafod cydweithio ar wahanol brosiectau gwella, gan ganolbwyntio'n benodol ar wella effeithlonrwydd prosesau profion labordy yn ystod anterth Covid-19. Siaradodd Nick â ni am y gwaith y mae Canolfan Rheoli Darbodus Toyota yn ei wneud a sut y gall egwyddorion darbodus sydd wrth wraidd Ffordd Toyota helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n cael eu hwynebu gan GIG Cymru.

Meddai Nick, 'Fe ddysgon ni'n eithaf cynnar mai un o'r egwyddorion y mae Toyota yn credu’n gryf ynddi yw’r awydd i gyfrannu at gymdeithas. A phan ofynnom sut allwn wneud hynny, ni wnaethom gynnig opsiwn gwell na gweithio gyda'r gwasanaethau iechyd.'