Yn y bennod hon o Trafod Gwelliant, siaradodd Terence Canning, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru ar gyfer Ymddiriedolaeth Sepsis y DU â Martine Price, Nyrs Arweiniol gyda Gwelliant Cymru am bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o sepsis. Dywedodd Terence, ‘Ond yr hyn y byddem yn ei ddweud gyda sepsis yw, nid yw’n gwahaniaethu yn erbyn neb. Mae'n effeithio ar bawb. Felly mae angen i ni gasglu straeon y cleifion hyn dim ond i dynnu sylw at y ffaith nad yw'n dibynnu ar oedran nac ethnigrwydd... gall fod yn unrhyw un.'