Yn y pumed podlediad yn y gyfres AM IECHYD, y testun trafod ydy genedigaeth a sut mae agweddau pobl wedi newid tuag at enedigaeth dros y blynyddoedd.
A oes gormod o bwysau ar ferched i eni mewn ysbyty? A ydy geni adref yn cael ei hyrwyddo yn ddigonol? A oes gormod o ymyrraeth meddygol mewn genedigaeth y dyddiau hyn?
Ymunwch efo'r podlediad difyr hwn a gwrando ar y sgwrs rhwng Siwan Humphreys (darlithydd mewn Bydwreigaeth, Prifysgol Bangor), Sian Beca (mam i ddau sydd wedi'u geni adref), Catrin Roberts (Bydwraig yn ysbyty Glan Clwyd a Myfyriwr Doethuriaeth) a Sian Roberts (Darlithydd Bydwreigiaeth rhan amser, gynt yn fydwraig cymunedol).