Listen

Description

Aelod anrhydeddus o Deulu Llanhari yw’r Prifardd Carwyn Eckley.

Enillodd y Gadair a noddwyd gennym yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 am gasgliad o gerddi ar y testun ‘Cadwyn’. 

Cawsom fore braf yng nghwmni Carwyn yn rhannu ein taith i noddi’r Gadair ar gweithgareddau fu’n rhan o’r profiad. 

Huw ac Owain sy’n mwynhau sgwrs a diolch iddynt am roi’r byd yn ei le gyda’r newyddiadurwr, bardd a’r cefnogwr pêl-droed brwd a diolch i Carwyn am roi o’i amser er mwyn i ni ddod i adnabod enillydd Y Gadair. 

Tipyn o gamp cyfweld â dau brifardd ac enillydd Llyfr y Flwyddyn 2024 o fewn pythefnos – a chyswllt bellach gan y tri â’r ysgol!

Noddi’r Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol oedd cam cyntaf ein dathliadau eleni wrth i’r ysgol ddathlu ei phen-blwydd yn 50. 

Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari.

Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.