Mr Pari.
Does dim angen mwy o gyflwyniad ar y dyn arbennig hwn.
Bu’n athro yma am ddeng mlynedd ar hugain.
Mae’n Gymro i'r carn, yn ddyn haearn a bellach mae wedi arall-gyfeirio'n dechnegydd ambiwlans.
Doedd dim posib gwasgu holl straeon Mr Pari i un bennod ar gyfer y podlediad, felly ymlaciwch a mwynhewch bennod 1 wrth i Mr Pari ein tywys ni o’i atgofion cynharaf, drwy’i goeden deulu, hyd at ddyddiau Aberystwyth...dyma sgwrs sy’n ein tywys i sawl cyfeiriad, wrth gwrs!
Dafydd a Betsan, dau o brif swyddogion eleni, sy’n ceisio cadw Mr Pari ar ryw fath o lwybr yn ystod y sgwrs hon.
Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.