Mr Pari Llanhari!
Ail bennod yng nghwmni Mr Pari wrth i ni glywed am ei daith o Lundain i Lanhari a cheisio crynhoi deng mlynedd ar hugain o atgofion mewn pennod! Cawn hefyd glywed am ei yrfa newydd a’i ddiddordebau a mwynhau mwy o lwybrau storïol unigryw Mr Pari.
Dafydd, yng nghwmni Eve y tro hwn, sy’n mwynhau’r sgwrs a’r hel atgofion.
Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari.
Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol