Listen

Description

Croeso i bennod ryngwladol gyntaf Llwybrau Llanhari!  Cawn deithio i Unol Daleithiau’r Amerig, i Stanford, er mwyn cynnal y sgwrs hon.  Serch hynny,  mae yna sawl tro difyr ac amrywiol ar lwybr a phin ar fap ein gwestai amryddawn heddiw. 

Yn feddyg, yn ymchwilydd ac yn gerddor o fri, estynnwn groeso cynnes iawn i Ifan Jenkin. 

Roedd Ifan yn un o’r disgyblion olaf i deithio i Lanhari o ardal Pen-y-bont cyn i ddrysau Ysgol Llangynwyd agor er mwyn darparu addysg Gymraeg uwchradd i ddisgyblion y sir honno. Ond  ymfalchïwn mai aelod o Deulu Llanhari yw Ifan. 

Ifan a Caitlin o Fl.12 sydd yn llywio’r sgwrs hon. 

Eleni, bydd Ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50. 

Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau amrywiol o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.